AMDANOM NI
Mae Nerth yn cynnig sesiynau ffitrwydd amrywiol ar-lein mewn awyrgylch cyfeillgar dwyieithog.
Nod Nerth yw gwneud hi’n hawdd a hwyliog i bawb fyw bywyd iach ac heini. Mae cymysgiad o sesiynau drwy’r wythnos er mwyn cryfhau’r corff, gwellau ffitrwydd a symudedd yn ogystal â thawelu’r meddwl ac ymlacio.
Does dim rhaid codi curiad calon neu pwysau pob tro, mae Gwenith a Rhodd yn coelio’n gryf bod o’n bwysig i pawb ffeindio’i Nerth a mwynhau symyd y corff i deimlo’n dda.
'Mae’r sesiynau yn gyfeillgar iawn ac mae’r gefnogaeth ychwanegol drwy’r wythnos yn grȇt. Mae Nerth yn teimlo fel cymuned.'
​
Ami
‘Ymuno â Nerth yw un o’r pethau mwyaf cadarnhaol rydw i wedi ei wneud yn 2021. Darparodd strwythur, amrywiaeth a bach o sbort dros fisoedd oer y clo mawr ac rydw i’n sicr yn teimlo’n ystwythach ac yn gryfach o ganlyniad.'
​
Eleri
'Os ydych chi’n edrych am sesiynau byw ar-lein ffirwydd/lles yn ystod y dydd, does dim gwell na Nerth'
​
Bernice
CYSYLLTU
Croeso i chi gysylltu gyda ni - rydym o hyd yn hapus i gael sgwrs ac ateb unrhyw gwestiynau.