top of page

AMDANOM NI

Rhodd a Gwenith yw sylfaenwyr Nerth, dwy chwaer sy’n mwynhau byw bywyd iach ac actif.

 

“Rydyn ni o hyd yn rhannu tips ac yn annog a chefnogi ein gilydd gyda’n nodau ffitrwydd.  Roeddem eisiau rhannu ein gwybodaeth a’n brwdfrydedd ac adeiladu cymuned cryf o’r un feddylfryd - Nerth.”

rhodd_gwenith_eistedd_wal_mewn_edited_edited.jpg

RHODD

Hyfforddwr Personol Lefel 3.

 

Mae Rhodd wedi mwynhau chwaraeon ers yn ifanc, hi oedd un o’r rhai oedd yn ymarfer gymnasteg yn ystod ei amser cinio yn yr ysgol...Cyn i ti feddwl, does dim gymnasteg yn y sesiynau!  Ond yn y deg mlynedd diwethaf mae hi wedi bod fwy o ddifrif ac wedi mwynhau y buddion o ymarfer corff fel rhan o’i rwtin wythnosol.

 

Mae Rhodd yn mwynhau cymysgiad o sesiynau sydd yn codi curiad calon fel HIIT neu cyflyru a hefyd cryfder - enwedig wrth weld y corff yn cryfhau o sesiwn i sesiwn.

 

Yn ei hamser hamdden, mae Rhodd yn mwynhau bod tu allan wrth redeg neu fynd am hikes a gorffen y diwrnod efo prosecco bach!

GWENITH

Mae Gwenith yn athrawes yoga wedi cymhwyso gyda’r British Wheel of Yoga ac wedi hyfforddi gyda Richard Adamo.  

 

Aeth i’w gwers yoga cynta’ yn bymtheg oed yn y ganolfan hamdden leol, ac mae hi wedi bod wrth ei bodd gydag yoga ers hynny!

 

Mae Gwenith yn mwynhau ymarfer a dysgu yoga sy’n llifo (vinyasa).  Mae’r sesiyau yn addas i bawb ac mae croeso mawr i ddechreuwyr.

 

Yn ei hamser hamdden, mae Gwenith yn mwynhau bod tu allan - cerdded y ci, rhedeg, beicio a nofio - a cael saib bach i fwynhau’r olygfa gyda paned a chacen.

Gwenith

SIAN JAMES

Mae Sian wedi bod yn ymarfer pilates ers 10 mlynedd, ac wedi bod yn dysgu pilates ers tair blynedd ar ôl derbyn ei chymhwyster Lefel 3.

 

Mae yn mwynhau cadw yn ffit drwy fynychu dosbarthiadau CrossFit.  Mae ganddi gefndir mewn rhwyfo, gan gynrychioli tîm lleol wrth rasio.  

 

Mae Sian yn mwynhau bod tu allan, ag yn hoffi cerdded ei chi bach ifanc (del iawn a llawn drygioni).

bottom of page